MYND YN ÔL  |  DEWISLEN
  clear gif

LLE MAIR YNG NGHYNLLUN DUW

Mae Duw ein Tad yn rhoi i ni bopeth trwy ei Fab, Iesu. "Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo beidio a mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol". Iesu Grist yw yr unig gyfryngwr rhwng Duw a dyn. Daw pob rhodd a dderbyniwn gan y Tad trwyddo ef yn unig.

Moliannwn unig-anedig Fab y Tad am iddo gymryd cnawd o'r Fendigaid Forwyn Fair i fod yn Waredwr ac yn Fara'r Bywyd i ni.

Trwy rym ei Groes a'i atgyfodiad mae'r Iesu yn tywallt arnom yr Ysbryd Glan ac yn ein gwneud yn un corff, sef Corff Cyfrin Crist y mae ef yn ben arno a ninnau'n aelodau ohono. O'r aelodau hynny y pennaf yw'r Fendigaid Fair Forwyn. Amlygodd Duw ei ogoniant ynddi hi. "Fy enaid sy'n mawrhau yr Arglwydd", meddai hi.

Ym Mair fe ganfyddwn yn ei lawnder y grym yr achubwyd ni oll trwyddo. Anrhydeddwn ei ffydd, ei gwyleidd-dra, ei phurdeb a'i chariad, a moliannwn Duw am yr hyn a wnaeth ynddi hi. Fe'i carwn hi am yr harddwch enaid a roddodd Duw iddi, ac am iddo ei rhoi yn fam i ni.

Golyga hyn nad cymeriad o'r gorffennol pell ydyw, gan ei bod bellach yn byw ym mhresenoldeb Duw ac yn gweddïo drosom yn rymus. Gofynnwn iddi ddangos i ni ei Mab fel y gwnaeth i'r Doethion, a'n harwain i ymgrymu ger ei fron mewn addoliad. Arwyddocâd symbolaidd y ddelw yw fod Mair yn cyflwyno Iesu i ni ac yn dweud, "Ef yw Goleuni'r Byd: addolwch Ef".

yn nôl i'r pen

clear gif

MYND YN ÔL  |  DEWISLEN
Website designers UK Wales
Newcastle Emlyn Carmarthenshire Wales UK Pemrokeshire accommodation