|
HOME |
MENU
|
|||
PILGRIM'S PRAYER
Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd.
Oherwydd wele, o hyn allan, fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau. Gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi, a santaidd yw ei enw ef. G Dyma gaethferch yr Arglwydd. Gweddiwn: Nefol Dad, dy Fab Iesu a aned o Fair Forwyn drwy nerth yr Ysbryd yw goleuni'r byd. Bydded i'r un Ysbryd ein harwain i efelychu Mair yn ei ffydd, ei chariad a'i gostyngeiddrwydd er mwyn inni ddilyn goleuni ei Mab yn y bywyd hwn a dyfod o'r diwedd i'th weld di wyneb yn wyneb, a'th glodfori di yn nheyrnas dragwyddol nef. AMEN. Santaidd Fair, fam Duw,yr wyt yn cynnig dy Fab inni i'w addoli. Boed inni drysori ei air yn ein calonnau A dwyn ei oleuni i'r byd. Mair o Aberteifi, gweddia dros Gymru. Mair o Aberteifi, gweddia drosom ni. |
|||
|
HOME | MENU |
|||