MYND YN ÔL  |  DEWISLEN
  Cliciwch ar ddelwedd i gael fersiwn helaethach.

yn nôl i'r pen

yn nôl i'r pen

yn nôl i'r pen

yn nôl i'r pen

yn nôl i'r pen

clear gif

HANES Y GYSEGRFAN

Yr oedd yn y canol oesoedd bererindod nodedig er anrhydedd Mair o Aberteifi. Dywed chwedl hyfryd fod cerflun o'r Forwyn Fair wedi ei ddarganfod ar lan afon Teifi, "and her sonne upon her lappe, and the taper bernynge in her hande". Aed ag ef i eglwys y plwyf ond nid arhosai yno, a dychwelai deirgwaith neu bedair i'r "place where now is buylded the church of our Lady", sef eglwys bresennol y Santes Fair. Byddai offeiriad siantri yn canu'r Offeren yn ddyddiol er anrhydedd y Forwyn Fair ar gyfer y pererinion a ddeuai i weddïo a gadael rhoddion. Byddent yn lletya gyda Marchogion Ysbytwyr Sant Ioan lle saif Gwesty'r Angel heddiw.

Mae Eglwys y Santes Fair yn dyddio o 1158. Os cafodd ei hadeiladu i roi cartref i'r cerflun rhaid bod Mair o Aberteifi yn hen iawn. Mae'n debyg i gysegrfan gynharach yn ninas Arras, a oedd bryd hynny yn rhan o Fflandrys. Byddai marsiandwyr Fflemingaidd o Aberteifi yn marchnata gwlân drwy'r porthladd - tybed a fu iddynt hwy ddod â'r cerflun yn ôl gyda hwy?

Tu allan i'r dref, ar hen lwybr pererinion, ceir adfeilion adeilad ar fin afonig. Capel Bach y gelwir y lle, a geill mai betws ydoedd lle byddai teithwyr yn gweddïo cyn cerdded y filltir olaf i'r cysegrfan. Mae yr un pellter o Eglwys y Santes Fair ag yw'r Walsingham Slipper Chapel o'r gysegrfan yna.

Eglwys briordy i Abaty Chertsey oedd Eglwys y Santes Fair. Gofalai mynachod Benedictaidd amdani hyd 1538 pan gawsant eu bwrw allan a difawyd y gysegrfan.

Bu defosiwn at Fair ar un amser yn hollgyffredinol yng Nghymru. Ceir llawer lle yn dwyn yr enw Llanfair neu Gapel Mair ac mae dwsinau o flodau a phlanhigion yn cynnwys ei henw. Ni fyddid yn rhoi'r enw Mair ar ferch oherwydd fe'i cedwid yn benodol ar gyfer y Forwyn Fair.

R'oedd yn Hwlffordd cysegrfan dapyr lai. Mae'r enwocaf yn Cagliari yn Sardinia. Yn 1370 suddodd llong o Catalonia oddi ar yr arfordir a daethpwyd a cherflun Mair y Tapyr i'r lan. Adeiladwyd eglwys ar ei gyfer ar benrhyn a rhoddwyd arni'r enw Santa Maria di Bonaria (yr awyr lân), gan fod pobl yn haeru ei bod wedi gwared y lle o awyrgylch heintus. Yr oedd Cagliari o dan reolaeth Sbaen a mabwysiadwyd Santa Maria di Bonaria fel eu cysegrfan hwy gan forwyr y wlad honno. Edrychid ar ei hol gan offeiriaid Urdd y Pridwerthwyr. Gan mai achub caethion o ddwylo'r Mwriaid oedd eu galwedigaeth, roeddynt yn fordeithwyr mawr, a daethant yn gaplaniaid i lynges Sbaen. Hwyliasant gyda Columbus gan fynd â'u defosiwn gyda hwy a sefydlu cysegrfan yn Ciwba. Mae cysegrfeydd yn dwyn yr enw La Candelaria yn Tenerife, Guatemala a Rio de Janeiro. Ar un adeg yr enw am Buenos Aires oedd Santa Maria de los Buenos Aires, sef yr enw Sbaenaidd ar y gysegrfan yn Cagliari.

Sut y trosglwyddwyd y defosiwn i Barcelona a Cagliari? Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg byddai niferoedd helaeth o forwyr Catalanaidd yn hwylio'r moroedd o amgylch Lloegr a gorllewin Cymru. A ellid fod rhai ohonynt wedi dod i Aberteifi, gweld y gysegrfan a'i gopïo?

Yn 1904 bu i fynachod o Lydaw, a oedd wedi eu halltudio i Aberteifi, adfer y gysegrfan gan roi'r enw Mair o Aberteifi ar eglwys eu habaty, a hefyd ar yr eglwys fechan a agorasant yn y dref yn 1912. Gadawsant y fro yn 1916 ac aeth cenhedlaeth arall heibio cyn y clywyd yn enw unwaith eto.

Yn 1952 bu i Martin Gillett - a sefydlodd Gymdeithas Eciwmenaidd y Fendigaid Forwyn Fair yn ddiweddarach - ddweud wrth yr Esgob Petit fod gan Aberteifi gysegrfan enwog. Penderfynodd yr Esgob ar ei union ei hailsefydlu. Bendithiwyd delw newydd gan y Cardinal Griffin yng Nghadeirlan Westminster ac aed a hi i bob plwyf yn esgobaeth Mynyw cyn ei chludo i Aberteifi. Ar 27 Mai 1956 cariodd tyrfa enfawr o bob rhan o Brydain hi i eglwys fechan Mair y Gofidiau. Ar 23 Gorffennaf 1970, gan ddefnyddio enw'r gysegrfan, cysegrodd yr Esgobion Petit a Fox eglwys newydd Mair y Tapyr. Dridiau yn ddiweddarach cariodd pererinion y ddelw yno o'r hen eglwys.

Digwyddodd na fu'r defnydd yn ddigon gwydn a gofynnwyd i'r Fam Concordia, O.S.B., lunio delw arall mewn efydd. Enwyd hon yn Gysegrfan Genedlaethol Gymreig y Forwyn Fair, ac wedi ei bendithio yng Nghadeirlan Prifddinasol Caerdydd fe'i tywyswyd trwy Gymru benbaladr. Ar Sul y Pentecost, 18 Mai 1986, fe'i sefydlwyd yn ddefodol ym mhresenoldeb 4500 o bererinion. Mae ei harddwch yn cipio'r dychymyg ac yn ysgogi defosiwn. Ysgrifennodd y Pab Ioan Pawl II neges arbennig ar gyfer yr achlysur; bendithiodd hefyd dapyr yn Rhufain, a'r tapyr hwnnw a roddwyd yn llaw y ddelw a'i oleuo.

Arwyddocâd symbolaidd y ddelw yw bod Mair yn cyflwyno i ni ei Mab i'w addoli, fel y gwnaeth i'r Doethion. Tystia'r tapyr mai ef yw Goleuni'r Byd. Byddwn yn croesawu pererinion sy'n dod i weddïo. Bydded iddynt ddysgu trysori gair Duw yn eu calonnau, fel y gwnaeth Mair, a byw yng ngoleuni ei Mab, sy'n Waredwr iddi hi ac i ninnau.

clear gif

MYND YN ÔL | DEWISLEN
Website designers UK Wales
Newcastle Emlyn Carmarthenshire Wales UK Pemrokeshire accommodation