|
MYND YN ÔL |
DEWISLEN
|
|||
![]() |
EIN LLEOLIAD A SUT I GYSYLLTU A NI
Mair y Tapyr,
Heol y Gogledd, Aberteifi, SA43 1LT, Plwyf yn Esgobaeth Mynyw: elusen gofrestedig 234168. tel/fax: 01239 612615 E-bost:
info@cardigantaper.org Mae Aberteifi yng ngorllewin Cymru, 20 milltir i'r gogledd o Aber-gwaun. Canolfan bwysig yn yr oesoedd canol, tref farchnad ddymunol gyda 4500 o drigolion. Prin yw'r Catholigion gydag ond 150 yn mynychu'r offeren er i'r plwyf ymestyn 30 milltir ar hyd yr arfordir. O Lundain cymerwch yr M4 ac yna'r A48 i Gaerfyrddin. Yno gwelwch arwydd i Aberteifi, 30 milltir i ffwrdd. Os ydych yn teithio o'r gogledd anelwch am Aberystwyth. Mae Aberteifi 38 milltir i'r de ar yr A487. Y mae'r eglwys ar y ffordd sy'n rhedeg trwy'r dref o'r de i'r gogledd. Mae'n sefyll tua'r pen gogleddol, yn wynebu'r maes rygbi. Gellir aros dros nos mewn tai gwely a brecwast o safon yn ogystal a gwestai lleol. |
||
|
MYND YN ÔL | DEWISLEN |
|||